Picture 4

 

Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr yw'r llais sy'n cynrychioli newyddiaduraeth a newyddiadurwyr yn y DU ac Iwerddon. Cafodd ei sefydlu yn 1907 ac mae ganddo dros 30,000 o aelodau sy’n gweithio ym myd darlledu, papurau newydd, asiantaethau newyddion, cylchgronau, cyhoeddi llyfrau, cysylltiadau cyhoeddus, ffotograffiaeth, fideograffiaeth a'r cyfryngau digidol.

 

Cyflwyniad

Mae gan Gymru draddodiad newyddiadurol hir a balch. Ond mae'r pandemig Covid-19 wedi ergydio diwydiant oedd eisoes yn dioddef o gyflyrau iechyd sylfaenol. Roedd teitlau papurau newydd Cymreig wedi gweld toriadau i niferoedd newyddiadurwyr a diffyg buddsoddiad mewn newyddiaduraeth yn barod, cyn i'r feirws ymddangos. Roedd buddiannau’r cyfranddalwyr, gofyniony buddsoddwyr, a chymrydelw wedi cael y flaenoriaeth ar gyflwyno cynnwys newyddiadurol o safon. Pan oedd pethau'n llewyrchus, roedd y cyhoeddwyr yn pocedu'r elw yn hytrach na buddsoddi yn y dyfodol. Roedd uno cwmnïau wedi gwanhau lluosogrwydd y cyfryngau’n sylweddol hefyd.

Cyflymodd y dirywiad wrth i’r rhyngrwyd ddechrau dwyn hysbysebu oddi wrth y cyhoeddiadau printiedig.  Ac er i’r rhain symud newyddiaduraeth i'r byd digidol, ni wnaeth yr hysbysebu ddilyn gan ergydio papurau newydd lleol yn arbennig. Ers hynny mae Facebook, Google a'r cewri technolegol eraill wedi defnyddio cynnwys y papurau newydd heb dalu amdano, ac yna dangos ei diolch drwy draflyncu'r holl hysbysebu. Yn ôl Adolygiad Cairncross 2019, roedd nifer y newyddiadurwyr rheng flaen amser llawn yn gweithio yn y DU wedi gostwng o 23,000 yn 2007 i 17,000. Yn y cyfnod hwnnw, gostyngodd y gwariant blynyddol ar hysbysebu mewn papurau newydd o 69 y cant (£3.2 biliwn), a gostyngodd y refeniw cylchrediadblynyddol o 23 y cant (£500 miliwn). Gan fod cwmnïau eisoes wedi gorfod dileu swyddi ar raddfa fawr yn ystod 2020 a hannercyntaf2021, pan ddaw cynlluniau cymorth Covid-19 y llywodraeth i ben, ofnir y bydd mwy o swyddi'n diflannu a phapurau newydd yn cau os na welir gweithredu pellach.

 

Yn Ebrill 2020, cyhoeddodd yr NUJ ei Gynllun Adfer Newyddion fel ymateb i'r argyfwng a achoswyd i'r diwydiant gan Covid-19, a hefyd i adfywio’r cyfryngau drwy greu ecoleg ddarlledu a'r wasg sy'n fwy amryfath ac amrywiol, ac sy’n gosod newyddiaduraeth er budd y cyhoedd wrth galon y diwydiant. Bellach, mae Cyngor Gweithredu Cymru’r undeb yn archwilio Cynllun Adfer ar gyfer Cymru, mewn cydweithrediad â newyddiadurwyr, gwleidyddion, busnesau a chymunedau.

 

 

Y Materion

·         Roedd teitlau papurau newydd Cymreig wedi cael eu hysbeilio’n barod, cyn y pandemig, gyda chyhoeddwyr yn hufennu 20-30 y cant o'r elw yn lle buddsoddi.

·         Collwyd nifer sylweddol o swyddi ar draws papurau newydd, yn cynnwys yn Reach a Newsquest.

·         Caeodd teitlau fel cyfres The Glamorgan Gem oedd yn gwasanaethu'r Fro.

·         Mae Facebook, Google a chewri technoleg eraill wedi mynd â chynnwys heb dalu amdano ac wedi monopoleiddio'r refeniw hysbysebu ar-lein. Mae'r pandemig wedi cwtogi  ymhellach ar hysbysebu ac mae cylchrediad rhai papurau newydd wedi gostwng.

·         Mae'r toriadau mewn darlledu'n cynnwys: toriadau cyllideb o £4.5m yn BBC Cymru, gyda swyddi’n cael eu colli. Gostyngodd incwm hysbysebu ITV o 42 y cant, bydd ei wariant cyfalaf yn cael ei dorri o £30m, a chyllidebau rhaglenni’n cael eu torri o £100m. Mae cyllid S4C wedi gweld toriad net o £20m dros y 10 mlynedd diwethaf a bydd cyllid gwerth £7m y flwyddyn gan lywodraeth y DU yn diweddu yn 2022 – trosglwyddir y cyfrifoldeb am gyllido i'r BBC.

·         Mae'r pandemig hefyd wedi amlygu diffyg lluosogrwydd ac annibyniaeth y wasg wrth i bapurau newydd Cymreig gyhoeddi hysbysebion â chyngor Covid-19 ar gyfer Lloegr.

·         Mae presenoldeb newyddiaduraeth leol yn angenrheidiol er mwyn gweld amrywiaeth yn y cyfryngau ac yn y gynulleidfa yn cynyddu’n gynaliadwy Rhaid bod newyddiadurwyr iau a rhai o gefndir amrywiol yn medru ystyried newyddiaduraeth fel gyrfa, ac yn cael cyfleoedd lleol am dâl i fynd i mewn i fyd newyddiaduraeth. Mae interniaethau di-dâl yn rhwystr anferth.

 

Cynigion ar gyfer Llywodraeth Cymru

·         Cydnabod newyddiaduraeth fel gwasanaeth cyhoeddus yn ffurfiol.

·         Cydnabod bod y cyfryngau hyperleol annibynnol yr un mor bwysig â'r cyfryngau prif ffrwd.

·         Sefydlu gweithgor tymor byr y Gweithgor Newyddiaduraeth er Lles y Cyhoedd.   Mae menter debyg a sefydlwyd gan Lywodraeth Yr Alban wedi cael llwyddiant mawr, gydagarbenigedd cyfranwyr o'r NUJ, y Rhwydwaith Newyddion Cymunedol Annibynnol (ICNN) a'r IWA.

·        Ailddosbarthu cyllid Hysbysiadau Statudol, a rhoi mynediad i ddatganiadau i'r wasg sector cyhoeddus i aelodau'r ICNN.

·        Dim cyllid cyhoeddus i gwmnïau sy'n torri cyflogau, dileu swyddi ac yn gwneud taliadau bonws i weithredwyr, a rhoddi cyllid yn amodol ar gydnabod undebau llafur, cyflogau teg, a thelerau ac amodau.

·         Treth ffawdelw ar y cewri technoleg – mae'r Cynllun Adfer yn galw am dreth ffawdelw o 6 y cant, ac yna treth seiliedig ar elw a fydd yn rhan o Dreth Gwasanaethau Digidol sy’n ariannu newyddiaduraeth er budd y cyhoedd. Dylai Llywodraeth Cymru drafod posibiliadau cyllido penodol ar gyfer Cymru gyda Facebook, Google ac Apple.

·         Creu Sefydliad Newyddiaduraeth Cymru (ar hyd braich oddi wrth y llywodraeth) i fuddsoddi mewn newyddion lleol a phrosiectau newyddiadurol blaengar.

·         Cynigiodd yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon £2 filiwn mewn grantiau drwy'r sefydliad arloesi NESTA i ddarparu cyllid ar gyfer cychwyn busnesau a modelau newyddiaduraeth newydd. Gellid mabwysiadu model tebyg yng Nghymru.

·         Rhoddi statws ‘ased o werth cymunedol’ i bapurau newydd lleol (yn cynnwys deddfwriaeth grymuso cymunedau) gan sicrhau bod teitlau'n cael eu diogelu. Byddai hyn ar y cyd â chymorth busnes ac ariannol fel y gallai mentrau cymdeithasol a chydweithfeydd newyddiadurol lleol gymryd teitlau drosodd.

·         Strategaeth genedlaethol ar gyfer llythrennedd y cyfryngau i fynd i'r afael â thwyllwybodaeth a newyddion ffug ar-lein. Gellid trefnu hyn ar y cyd â'r BBC, ITV, yr NUJ ac ysgolion newyddiaduraeth.

·         Gellid ystyried talebau i bobl ifanc i brynu papurau newydd/tanysgrifiadau newyddion – gallai hyn gael ei gyfyngu i allfeydd newyddion a leolir yng Nghymru. Mae'n hanfodol bod pobl ifanc 16 i 18 oed yn gallu cyrchu ffynonellau newyddion dibynadwy fel y gallant gyflawni eu dyletswydd ddemocrataidd.

·         Darparu cyllid ar gyfer prentisiaethau i hyfforddi newyddiadurwyr yn y sector Addysg Bellach.

·         Credydau treth a benthyciadau di-log i gefnogi swyddi yn y cyfryngau yng Nghymru. Rhaid i'r arian hwn gael ei gyfeirio at newyddiaduraeth rheng flaen.

·        Cymorth ariannol ar gyfer cydweithfeydd newyddiadurol a menter gymdeithasol lleol sy'n cymryd teitlau drosodd.

·         Buddsoddi strategol yn defnyddio cyllideb hysbysebu llywodraeth Cymru, yn cynnwys y sector hyperleol. Dylai hyn gynnwys gwariant gan awdurdodau lleol a'r sector cyhoeddus.

·         Cynrychiolaeth o 25 y cant i weithwyr ar fyrddau gweithredol sefydliadau sy'n derbyn cyllid cyhoeddus.

·         Cymorth tymor hirach i weithwyr llawrydd/hunangyflogedig a syrthiodd rhwng cynlluniau'r llywodraeth ac sy'n cymryd mwy o amser i ymadfer yn ariannol oherwydd y toriadau i gyllidebau llawrydd ac i'r gwaith sydd ar gael. 

·         Parhau i alw ar lywodraeth y DU i gadw'r codiad o £20 yn y Credyd Cynhwysol a fydd yn dod i ben ym mis Hydref.  Yn ôl yr ystadegau, mae miliynau yn fwy wedi gorfod hawlio hwn o gymharu â chyn y pandemig a byddai dileu'r codiad hanfodol hwn yn gwthio llawer i dlodi dyfnach.

·         Llywodraeth Cymru i lofnodi Siarter Gweithwyr Llawrydd yr NUJ - https://www.nuj.org.uk/resource/fair-deal-for-freelances.html

 

Mae'r NUJ yn croesawu'r rhan ganolog bydd y Pwyllgor yn ei chwarae wrth fynd i'r afael â'r problemau sy'n wynebu'r Cyfryngau yng Nghymru ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Pwyllgor. 

 

Cyfarwyddyd gan yr NUJ ar effaith Covid-19 ar y cyfryngau yng Nghymru/NUJ briefing on the impact of Covid-19 on the Welsh media:

https://www.nuj.org.uk/resource-report/nuj-briefing-on-the-impact-of-covid-19-on-the-welsh-media-cyfarwyddyd-gan-yr-nuj-ar-effaith-covid-19-ar-y-cyfryngau-yng-nghymru.html

 

Cynllun Adfer Newyddion yr NUJ: o argyfwng iechyd i newyddion da:

https://www.nuj.org.uk/resource-report/from-health-crisis-to-good-news.html